Gorffennaf 2008
cynnwys:
oddiwrth y golygydd newyddion adolygiad cystadleuthau
cyfansoddwyr wrth eu gwaith llythyr at y golygydd rhestrau cyfeiriadur gweithgor cyfansoddwyr cymruFel arfer ar ddechrau Gorffennaf, mae ffrwd o daflenni’n cyrraedd drwy’r drws, yn dwyn hanes holl Wyliau Cerdd a chyngherdda’r hydref. Ninnau’n dechrau cynllunio - i ba rai y gallwn ni fynd, pa rai fydd yn amhosibl o herwydd y byddwn ar ein gwyliau - a’r cwbl yn helpu i drechu gwres a blinder a digalondid mis Gorffennaf, pan mae pawb wedi diflannu ar ddiwedd y tymor a dim byd yn ddigwydd. Mae un rheol, fodd bynnag, yn perthyn i’r holl ddanteithion ar y gorwel - bydd rhaid wrth y car. Ac yn sydyn, y flwyddyn hon, mae pethau’n newid eu gwedd. Mae pris petrol wedi codi, a phris ambell i docyn cyngerdd hefyd, pris pryd o fwyd - a dyma ganslo taith i fangre gynefin.
Heb awydd pendroni dros y daith hir, droellog ar hyd yr A470 o’r Dê i’r Gogledd, dechreuais gyfrif ein Gwyliau Cerdd. Mor gyfoethog ydym yn y rheiny, yn enwedig ‘nawr mae’n bosibl ei gweld ar y rhyngrwyd. Ddechrau Gorffennaf bu dau ddiwrnod ardderchog o ddigwyddiadau yn Llandudno, yn cynnwys, ymysg pethau eraill, prosiect i rappers ifainc, cystadleuaeth i offerynnwyr ifainc, a gweithdy sacsoffôn, yn erbyn cefndir gogoneddus traeth y gorllewin a’r môr.
Yng nghanol mis Awst bydd Canolfan y Tabernacl ym Machynlleth yn cynnal rhaglen wyth dydd o gerddoriaeth glasurol, ynghyd â noson jazz, noson o farddoniaeth, darlith Hallstatt, a Gwobr Glyndwr am gyfraniad neilltuol i’r celfyddydau yng Nghymru. Ar ddydd Llun Awst 18 bydd yr Wyl yn cynnal cyngerdd Cyfansoddwyr Cymru, a rhaglen o waith ein haelodau, gyda Jeremy Huw Williams, baritôn, Nigel Foster, piano, a Catrin Finch, telyn. Dewch os gallwch!
Mae ‘na restr hir - gan gychwyn gyda’r berl o Wyl glasurol mewn eglwys fechan hanesyddol ym Machen Isaf, tua’r gogledd o Gasnewydd, ar ddiwedd Mai. Yna drwy’r hen Wyl lewyrchus yn Llanelwy, gan orffen gyda Gwyl Bro Morgannwg yng Nghastell Sain Dunwyd (St. Donat’s Castle), sy’n edrych allan dros Fôr Hafren, yn wythnos gyntaf mis Medi. Y flwyddyn hon bydd yr Wyl yn croesawu cerddorion o Silesia, o’r Iseldiroedd, ac o Estonia, yn chwarae cerddoriaeth o’r gwledydd rheiny ac eraill, gan gynnwys gwaith ein haelod ni, Hilary Tann, sydd ar hyn o bryd yn Brifathro Cerdd mewn prifysgol yn New York State yn yr Unol Daleithiau, ac yn lansio CD o’i gwaith.
Efallai nad yw mis Gorffennaf mor ddiflas, wedi’r cwbl . . . Enid Luff
Daeth y mater pwysig a ganlyn at ein sylw, trwy garedigrwydd y British
Academy of Composers and Songwriters:
Trwyddedu cerddoriaeth yn Ewrop:
Bu cadeirydd y British Academy, David Ferguson, ynghyd
â Sir Paul McCartney a Robin Gibb, ymysg nifer fawr o enwogion o fyd y
cyfryngau, yn apelio at Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, José Manuel
Barroso, gan fynegi eu pryderon dwfn ynglyn â’r posibilrwydd y bydd dyfarniad
anffafriol yn achos trwyddedu holl-Ewropeaidd mewn cerddoriaeth.
Gyda hwy oedd Benny Anderson, Charles Aznavour, Pedro Almodovar, James Blunt,
Miguel Bose, Patrick Doyle, Bryan Ferry, David Gilmour, Julio Iglesias, Maurice
Jarre, Mark Knopfler, Michel Legrand, Paco de Lucia, Enio Morricone, Nicoal
Piovani, Sade, Alejandro Sanz, Caetano Veloso, a Gabriel Yared.
Ar Orffennaf 3ydd, ail-apeliodd cynrychiolwyr yr European
Composer and Songwriter Alliance (ECSA), ynghyd â’r holl gymuned
greadigol, at yr Arlywydd:
“It is here Mr Barroso that we need political
leadership. Hundreds of thousands of small and medium size businesses, both
writers and publishers, are likely to be wiped away without your help. We
believe this will be a lasting disaster for all Europeans, culturally, socially
and economically. We urge you to take a pause at this point and to bring
together parties including […] us, the Authors, to formulate a positive way
forward for the role creativity and music in a digital Europe.”
Cafwyd ar ddeall bod y Comisiwn Ewropeaidd yn
cysidro cyhoeddi penderfyniad bod cam-weithredu’n bod yn achos cystadleuaeth
CISAC o ran trwyddedu rhyngwladol i gerddoriaeth ar-lein, lloeren, a chabl.
(2006 Statement of Objections).
“DG Competition perceives competition as the sole
solution to every problem and try to prejudicially brand the authors’
societies as “monopolies”. If, as the DG Competition is appearing to
suggest, the Societies are required to ‘compete’ with one another across
national boundaries on price, the whole system will collapse. Major rights
holders will withdraw their repertoires and either place them with an agency
[…] or they will look towards direct licensing themselves.”
Os y cadarnheir hyn gan y Comisiwn, byddai
penderfyniad yn erbyn buddiannau cyfansoddwyr a’u cymdeithasau hawlfraint yn
arwain at ganlyniadau hollol negyddol ymhob ystyr. NI fyddai dim mantais chwaith
i ddatblygiad gwerthu ar-lein.
- I gyfansoddwyr:
Byddai’n golygu gostyngiad difrifol mewn incwm i filiynau o gyfansoddwyr ar
draws y byd, fel na na fyddai’r rhelyw ohonynt yn gallu gwneud bywioliaeth
o’u gwaith. Byddai cystadlu rhwng cymdeithasau hawlfraint yn achosi dirywiant
llethol mewn gwerth ariannol hawlfraint (gan mai’r gymdeithas yn cynnig y
gradd isaf o dâl fyddai’n ennill yr hawl i drwyddedu).
- I ddefnyddwyr (darparwyr gwasanaethau ar-lein,
darlledwyr ayyb): byddai’n golygu darnio’r repertoire ymhellach, ac
achosi ansicrwydd yn gyffredinol ac yn gyfreithiol i ddefnyddwyr cerddoriaeth
mewn unrhyw achos o hynny ymlaen, boed ar-lein, trwy loeren, neu ar gabl.
- I’r cyhoedd: Byddai’n cyfyngu cyfle’r
cyhoedd i fwynhau cerddoriaeth a’r celfyddydau yn gyffredinol. and yn arwain
at fwy o ladradau (piracy).
- I gymdeithasau hawlfraint: Byddai’n tarfu ar eu gallu i gynrychioli
ac i amddiffyn creawdwyr, ac i sicrhau tâl teg iddynt am gael defnyddio’u
gwaith.
- I’r farchnad ar-lein yn Ewrop: Byddai’n
gwneud niwed sylweddol i bolisi celfyddydol Ewrop, ac yn ei gwneud yn llawer mwy
annodd i Ewrop gynhyrchu celfyddyd o unrhyw werth yn y farchnad ryngwladol.
“Authors’ societies, their publisher and creator members, and music
users, with the full encouragement and support of the European Commission, have
been striving over recent years to adapt to the demand of the online environment
for licences covering several countries. This involves a fundamental change to
the territorial basis on which creators’ rights have been traditionally
organised and managed. A number of significant changes have already taken place
and the process of evolution is already well under way. This should be allowed
to continue in as orderly a fashion as possible as those directly involved in
the business of licensing music are best placed to develop a solid and
sustainable foundation for the new online music market” (o lythyr
cynrychiolwyr Prydeinig at yr Arlywydd Barroso).
Os hoffech ddarllen y llythyr yn ei grynswth, ewch i www.britishacademy.com
Carbon 12
Fe hoffwn ddweud cyn dechrau, nad fel golygydd y Cylchlythyr hwn ‘rwy’n
sgrifennu’r darn yma, ond fel aelod o’r cyhoedd a aeth i weld Carbon 12,
a Choral Symphony, gan Errollyn Wallen, y libreto gan John Binias.
Perfformwyd y darn gan gerddorfa, côr ac unawdwyr Opera Genedlaethol Cymru, yng
Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, ar y 6ed o Fehefin. Y testun oedd
hanes (ffuglennol) glowr o’r enw John Jones, a gyfarfyddwn am y tro cyntaf yn
ei angladd ei hun. Mae’n codi o’i arch, ac yn arwain y cwmni ar daith hir i
fyny’r mynydd, dan ganu am hanes y glo. O gopa’r mynydd, maent yn suddo mewn
ysbryd drwy haenau’r gwelyau glo yn y mynydd, ac yn canu am y niwed, yn
ogystal a‘r cyfoeth a’r moeth, ddaeth i Gymru yn ei sgîl.
Dychmygwyd y darn yn y lle cyntaf fel simffoni gorawl. Fodd bynnag, cychwynnodd
mewn dull opera ddigri, -‘roedd y gerddoriaeth yn ardderchog hyd y diwedd, a
chanwyd y darn ag asbri gan y prif gymeriadau, sef Jason Howard fel John Jones
ac Alwyn Mellor fel ei wraig. Fodd bynnag, wedi’r daith i fyny’r mynydd,
newidiodd arddull y libreto i ryw raddau, nes dod yn nes at oratorio, gan
ganolbwyntio llai ar y cymeriadau, a mwy ar arwyddocâd hanesyddol y diwydiant
glo. Er i’r darn gael ei gynnal drwyddo gan sgôr meistrolgar, eto annodd oedd
osgoi teimlad o wendid o’r herwydd.
‘Roedd llyfryn y rhaglen yn gynhyrchiad cain a destlus, yn cynnwys cyfweliadau
rhwng Simon Reeves a’r ddau awdur, Errollyn Wallen a John Binias. Wrth
ddarllen cyfraniad John Binias yn arbennig, gellid dilyn twf ei ymrwymiad i
Gymru yn ystod ei amser yn gweithio yma. Mae’n amlwg i Binias wneud ymdrech
deg dros rai blynyddoedd i ddod i adnabod Dê Cymru, ond mae’n anochel serch
hynny ei fod yn siarad fel rhywun sydd wedi dysgu am Gymru o’r tu allan, ac
yna wedi sgrifennu stori’n seiliedig ar ein hanes. Daeth Errollyn Wallen yn
hwyrach ymlaen i ymweld â Chymru. ‘Roedd ei hymateb fel cyfansoddwr yn
ardderchog. Mae hi’n feistres ar ei chrefft fel cyfansoddwr opera ac oratorio,
‘roedd y sgôr yn ysbrydoledig, a’r cymeriadau yn dod yn hollol fyw.
Serch hynny, mae’r cwestiwn yn aros: pam, er gwaethaf y gofal a gymerwyd, y
daethpwyd â dau o bobl o’r tu allan i Gymru i sgrifennu amdanom ni?
Wnaiff hyn mo’r tro. Ni fynnwn i mewn unrhyw ffordd ddibrisio llwyddiant
campus dau awdur Carbon 12, y cyfansoddwr a’r libretydd - a gobeithio y
byddant yn maddeu i mi am ddweud hyn - ond dylai operâu neu oratorïau am Gymru
ddeillio yn uniongyrchol o’n diwylliant Cymreig, ac nid o’r tu allan i Gymru.
‘Roedd yr holl broses, ar waethaf ei llwyddiant, yn arogli o’r
ffug-gyflwyniad o Gymru a welwn bob dydd yn nwylo’r diwydiant twristiaeth,
rhyw werthu gweledigaeth yr ymwelwr o Gymru, tra’n aml yn hollol anwybyddu
gwir fywyd a thraddodiad ein gwlad.
Enid Luff
Daeth y wybodaeth a ganlyn i law:
Walbrook Singers Composition Competition
Cystadleuaeth cyfansoddi darn corawl ar y thema “New Year”.
Rhaid derbyn pob darn erbyn 12pm dydd Mercher Hydref 1, 2008. Cyhoeddir y
canlyniadau i bob cystadleuydd erbyn Rhagfyr 1 2008.
Perfformir y darn(au) buddugol mewn cyngerdd gan y Walbrook Singers ar Ionawr
31, 2009, yn Eglwys St Peter, Mill End (ger Watford), Hertfordshire, Lloegr. Am
ragor o wybodaeth a rheolau cysylltwch os gwelwch yn dda â walbrook.singers@yahoo.co.uk
neu (+44) (0) 20 8632 1854.
2008 Double Bass Composition Competition
mewn dau gategori. Categori 1: Gwaith i fâs dwbl di-gyfeiliant, neu fâs
dwbl a phiano. ar thema “St. Kilda - ei hanes, ei threftadaeth, ei hiaith,
a’i phobl”, yn parhau 3-6 munud.
Categori 2: Gwaith i 2 fâs dwbl, neu ragor, ar yr un thema. (Ceir rhagor o
wybodaeth am St Kilda yn www.kilda.org.uk
)
Dyddiad cau: Rhagfyr 31, 2008.
Sylwer: ni roddwyd cyfeiriad rhyngrwyd yng nghyswllt y
gystadleuaeth yma. Am ragor o wybodaeth a rheolau cysylltwch, drwy lythyr, ffôn
neu e-bost, â ,
The British and International Bass Forum, Vale Cottage, Templecombe, Somerset
BA8 0HJ, Tel: 1963 370051, e-bost: doublebass@tiscali.co.uk
The Second International Uuno Klami Composition Competition (Finland)
Pwrpas y Gystadleuaeth yw creu repertoire newydd dda i gerddorfa sinfonietta
fechan.
Dyddiad cau: Rhagfyr 1, 2008
Ceir rhagor o fanylion gan Swyddfa’r gystadleuaeth Tel. +358 50 324 0058
Ebost: reetaliina.marin@kymisinfonietta.fi
ac ar y rhyngrwyd yn www.klamicompetition.fi
CYRSIAU NEWYDD: Cyrsiau Technoleg Cerdd yn The Music Academy.
Yn dilyn lansiad swyddogol The Music Academy, cydweithrediad rhwng
Prifysgol Bro Morgannwg a Roland UK, yn Ebrill 2008, bydd y cyntaf o’n cyrsiau
blasu undydd yn cychwyn yn ATRiuM, campws newydd y Brifysgol yn Adam Street,
Caerdydd yn ystod mis Gorffennaf.
Mae’r rhaglen hon yn ffrwyth datblygiad pwysig, gan y dysgir y cyrsiau gan
arbennigwyr o Roland UK.
Gweler isod am fanylion y cyrsiau. Am ragor o wybodaeth, neu i fwcio lle ar
unrhyw un o’r cyrsiau, cysylltwch yn uniongyrchol â Dr. Paul Carr yn: ccirolandacademy@glam.ac.uk
Exploring Synthesizers with Roland Technology
Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut mae syntheseisyddion (synthesizers)
fel y Roland SH201, Fantom G a V-Synth i’w defnyddio’n greadigol i
gyfansoddi ac i berfformio.
Bydd y cwrs yn egluro sut mae syntheseisydd yn gweithio, ac yn creu sain
gwreiddiol ac unigryw. Bydd pob efrydydd yn derbyn tystysgrif presennoldeb
oddiwrth y Music Academy ar ddiwedd y dydd.
Dyddiad cychwyn: Sadwrn Gorffennaf 19, 2008
Prîs y Cwrs: £85 (£50*) - yn cynnwys lluniaeth yn ystod y dydd.
Yn parhau: 10.00yb – 4.00yp (cwrs undydd)
Welcome to the world of V-drums
Mae’r cwrs cyffrous hwn yn gyflwyniad i set o ddrymiau (Roland
V-drums), a sut i’w defnyddio’n effeithiol. Cynhwysir hefyd sut y gellir
cyfuno’r set ag offer taro arall er enghraifft yr SPDS percussion sampler
a’r Handsonic.
Dyddiad cychwyn: Sadwrn Gorffennaf 26, 2008
Prîs y Cwrs: £85 (£50*) – yn cynnwys lluniaeth yn ystod y dydd.
Yn parhau: 10.00yb – 4.00yp (cwrs undydd)
I rai sydd am fwynhau cerddoriaeth tra’n ennill credydau ar gyfer cymwysterau
HE, mae’r Music Academy yn cychwyn rhaglen o gyrsiau byrion trwyddedig, yr
uned gyntaf mewn Gwyddor Cerddoriaeth yn cychwyn ar Awst 6. Gweler crynodeb byr
isod, ond am rogor o wybodaeth a ffurflen gais, dylir unai ebostio ccirolandacademy@glam.ac.uk
, neu ffonio 0800 716925.
Music Theory (Gwyddor Cerddoriaeth)
Mae’r cwrs deng-uned hwn yn ffurfio cyflwyniad i wyddor cerddoriaeth
boblogaidd. Ei bwrpas yw cynorthwyo’r myfyriwr i amgyffred pynciau cyffelyb,
er enghraifft darllen cerddoriaeth mewn ensemble, cyfansoddi, trefnu, a sgiliau
clywedol. Mae’n sylfaen gwyddorol i’r FDSC in Creative Industries (Roland
Popular Music Technology), a chymeradwyir ei ddilyn yn gynnar os am ddilyn y
cwrs ar sylfaen rhan amser.
Mae’r rhaglen hon yn arbennig o werthfawr i fyfyrwyr sydd â’u diddordeb
pennaf mewn gwella eu dealltwriaeth o Wyddor Cerddoriaeth, ac felly gellir dilyn
y cwrs yn llwyddiannus ar ei ben ri hun.
Prîs y cwrs yw £150, bydd yn cychwyn ar Awst 6, 2008, ac yn rhedeg ar dyddiau
Mercher am ddeng wythnos, o 7pm – 9pm yn yr ATRiuM
Dr Paul Carr, Head of The Music Academy,
Room CA409, Cardiff School of Cultural & Creative Industries
The Atrium, 86 - 88 Adam Street, Cardiff CF24 2FN
Music Academy Web Site: http://cci.glam.ac.uk/themusicacademy/
Cafodd Mervyn Burtch berfformiad o’r opera i blant, 'Jason and
Hanna' gan y Manitoba Opera yn Winnipeg, Canada, ar Mehefin 20 a 21. Fe
chwrareir ei Sonatina i Recorder a Harpsicord yn Eglwys y Plwyf, Nantwich ar
Goffennaf 24 gan John Turner (Recorder) ac Ian Thompson (Harpsicord).
Derbynniodd Mervyn hefyd gomisiwn gan WNOMAX i gyfansoddi darn corawl, The
Competition of the Birds and Beasts , i gôr plant a cherddorfa Opera
Genedlaethol Cymru, gydag unawdwyr mezzo-soprano a baritôn.
Chwareir Seven Preludes Graham Williams i unawd piano ar
Hydref 6 yn y Wigmore Hall yn Llundain gan Junko Kobayashi.
Perfformiwyd Bossa Nova Galesa Dafydd Bullock yn Sao Paulo,
Brasil, ar Mai 25 gan Antonio Eduardo Santos. Cafwyd Premiere Byd ei Sonata
Latina yn Lorena, Brasil, ar Mehefin 17, gan Antonio Eduardo Santos.
Bydd Ffanffar gomisiynwyd gan Dafydd ar gyfer agor Hafod Eryri ar yr Wyddfa yn
cael ei chwarae yn y seremoni ar Medi 5. Mae Dafydd hefyd yn gobeithio cael
recordiad o Chica Latina, i Bumawd Pres yng Nghaerdydd yn ystod yr haf.
Mae’n bosibl y bydd premiere ei Sonata i Sielo Rhif 4 yn Sao Paulo, Brasil, ym
mis Medi.
Bydd Premiere Byd Zlata Reka, i’r Virtuosi di Basso (12 unawdydd
sielo Cerddorfa Ffilharmonig Czechoslvakia), yn cymryd lle mewn cyngerdd yn
Neuadd Dvorak, Rudolphinum, Prague, ar Hydref 14 am 19.30. Bydd Dafydd yn cael
ei dderbyn yn ffurfiol fel Weinbruder ar Tachwedd 15 gyda’r
Weinbruderschaft Mosel-Saar-Ruwer.
Mae darnau newydd yn cynnwys Cerdd Simffonig newydd, Caer Engan, Dancing
Light i Glarinet, Marimba a Thelyn, In Memoriam: April Anniversary i
Glarinet, Marimba a Phiano, cylch o bedair cerdd simffonig: Die
Mosel-Jahreszeiten, ac un newydd dan y teitl Talaith.
Cyhoeddwyd hefyd y comisiynwyd Dafydd ga Lysgenhadaeth Czechoslovakia yn
Luxembourg i gyfansoddi Requiem i Jan Palach, i ddathlu 40fed penblwydd ei hunan
laddiad fel protest yn Prague ym 1968. Caiff ei chwarae yn Eglwys Limpertsberg,
Dinas Luxembourg, ar Ionawr 29, 2009 am 20.00
Chwaraewyd unawd fibraffon Gareth Churchill, Tairllech, gan Enrico
Bertelli ym Mhrifysgol Madrid, Campo Cristana, Spaen, ar Gorffennaf 3. Bydd
ei Rhapsodi Gwerinol, i Gerddorfa, yn cal ei chwarae gan y
Llanelli Chamber Players yn Eglwys yr Holl Saint, Llanelli, ar Awst 12 am 7yh.
Ar Awst 1, chwareir Llyfr Du (i 10 perfformiwr) gan yr Aurora Orchestra
mewn gweithdy cyfansoddwyr yn ystod y Musicfest yn Aberystwyth, yn y Neuadd fawr,
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Bydd Chris Maxim yn arwain ei ddarn corawl The Seas are Quiet
(2007) mewn cyngerdd gan y Giltspur Singers dydd Sadwrn Gorffennaf 19 am 7.30yh
yn Eglwys St Margaret, Lee Terrace, Lee, Llundain SE13. Yn yr un cyngerdd,
bydd yn chwarae première ei ddarn diweddaraf i’r organ, Prelude &
Fugue.
Mae Richard John yn edrych ymlaen at ddau premiere cyn o hir. Ar Medi 20.
un Eglwys Santes Fair, Abertawe, Michael Williamsyn cynnwys perfformiad cyntaf
..l'amor che muove il sole l'altre stelle. Ac ar Medi 23, yn Eglwys yr
Holl Saint yn y Mumbles, Abetawe, bydd y cyfansoddwr ei hun yn rhoi datganiad
piano, a’r rhaglen yn cynnwys perfformiad cyntaf ei ddarn Notturno.
Bydd y rhaglen yn cynnwys hefyd Fall gan Dan Phelps.
Comisiynwyd Hilary Tann i gyfansoddi’r darn prawf i gorau merched yn
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Hefyd bydd premiere
"Wellspring" (y geiriau gan Menna Elfyn) yn cymryd lle yno ar
Gorffennaf 12. Lensir CD o gerdd siambr Hilary Tann yn ystod Gwyl Bro
Morgannwg ar Medi 12, mewn cyngerdd yn cynnwys ei thriawd telyn "From the
Song of Amergin" a thriawd piano "Nothing Forgotten". Chwareir y
gerddoriaeth ar y CD ("Songs of the Cotton Grass" -- Deux Elles 1132)
gan y fiolydd a fiolinydd Matthew Jones gydag Alun Darbyshire (obo), Elizabeth
Donovan (soprano), Thomas Carroll (sielo), Lucy Wakeford (telyn), Kathryn Thomas
(ffliwt), and Michael Hampton (piano).
Bydd perfformiad o Ave Maria Lisa Mears, gan Fiona Beresford,
Celine Forrest, Carrie Thompson a Charlotte Jug, ar daith mewn sawl neuadd ym
Mharis ym mis Gorffennaf, a chenir gosodiad newydd o For the Beauty of the
Earth gan leisiau dynion yr Ariosa Singers (premiere) yng Ngwyl All
Saints Alive!, Abertawe Swansea ym mis Medi. Bydd y tenor Christopher
Waring Davies yn canu ei Chylch o Gerddi, Cinco Canciones Espanolas, a
threfniant arbennig o Ave Maria, gyda’r cyfansoddwr wrth y piano, mewn
cyngerdd yn yr hydref yn Eglwys Teilo Sant, Bishopston, Abertawe, y
manylion i ddod.
Dear Editor,
I am responding to your article - To compare personal experiences for lack of
inspiration is to solicit the response - well messrs abc or xyz s that's how
things are if you are a genuine creative artist - closer to nature and natural
rhythms than we may think we can get away with . . . .
As for inspiration being a dirty word - whatever next?
We should inspire to focus hearts and minds on the reality of composing today,
saying there is no need call up the spurious muse of these dilettante dinosaurs
when we are being buried by them.
As for inspiration not getting a look in, has nobody heard of the ongoing
revolution since the '70's post quantum reality: chaos theory and state of the
art music technology and the enormous future of electronic music, which is, and
will continue to impact the nature of creativity of which inspiration remains
the essential integer.
David Lloyd-Howells
| Gorff 12 08 | Hilary Tann: Wellspring (geiriau Menna Elfyn). Cyngerdd Eisteddfod Llangollen . |
| Gorff 19 08, 7-30pm | Christopher Maxim: The Seas are Quiet, côr y Giltspur Singers, a Christopher Maxim: Prelude & Fugue, i organ, y cyfansoddwr, Eglwys St Margaret, Lee Terrace, Lee, Llundain SE13. |
| Awst 12 08, 7pm | Gareth Churchill: Rhapsodi Gwerinol. Llanelli Chamber Players, Eglwys yr Holl Saint, Llanelli |
| Medi 05 08 | Dafydd Bullock: Fanfare (seremoni agoriadol Hafod Eryri), copa Eryri |
| Medi 12 08 | Hilary Tann: Nothing Forgotten (vl, vcl, pno), a From the Song of Amergin (fl, vla, hp), Matthew Jones ac Ensemble, Gwyl Bro Morgannwg, Bradenstoke Hall, St. Donat’s Castle. Yn yr un cyngerdd: John Metcalf: Dolbadarn Castle (vcl, hp), a Rest in Reason, Move in Passion, i driawd piano. |
| Medi 20 08, 7pm | Richard John: ...l'amor che muove il sole l'altre stelle, unawd piano. Michael Williams, piano. Eglwys Santes Fair, Abertawe. |
| Medi 23 08, 8pm | Richard John: Notturno, unawd piano, y cyfansoddwr, Eglwys yr Holl Saint,. Mumbles, Abertawe. |
| Medi 23 08, 8pm | Dan Phelps: Fall, i biano. Richard John, piano, Eglwys yr Holl 8pm Saint, Mumbles, Abertawe. |
| Hyd 06 08, 7-30pm | Graham Williams: Seven Preludes, unawd piano, Junko Kobayashi. Neudd Wigmore, Llundain. |
| Hyd 14th 08, 7-30pm | Dafydd Bullock: Zlata Reka, i 12 sielo. Virtuosi di Basso, Neuadd Dvorak, Rudolphinum, Prague, Czechoslovakia. |
SYLWER: Ein golygydd gwâdd ar gyfer rhifyn Cylchlythyr yr Hydref fydd
Gareth Glyn, gyrrwch unrhyw newyddion neu gyfraniadau i gareth.glyn@toucansurf.com
, os gwelwch yn dda.
DYDDIAD CAU Y RHIFYN NESAF fydd Medi 30. Caiff gwybodaeth yn cyrraedd yn hwyr ei
gynnwys, i’r rhestrau yn unig, drwy ganiatad y golygydd.
SYLWER YMHELLACH: Mae unrhyw farn neu biniwn a fynegir mewn unrhyw ran o’r
Cylchlythyr hwn y eiddo i’r awdur yn unig, Nid ydynt o angenrheidrwydd yn
cynrychioli barn Cyfansoddwyr Cymru.
Gall llythyrau at y Golygydd gael eu golygu neu eu byrhau.
gwefannau aelodau
Dafydd Bullock - www.bullockmusic.info/
Paul Carr - www.kendormusic.com/composer/carr.htm
Max Charles Davies - www.maxcharlesdavies.com
Kenneth Gange - www.kenneth.gangecomposersalliance.com
Paula Gardiner - www.paulagardiner.co.uk
Gareth Glyn - http://gglyn.tripod.com
Stephen Goss - www.surrey.ac.uk/Music/Who/Goss.html
and www.cadenza-music.com
John Hardy - www.johnhardymusic.com
Brian Hughes - www.brianhughes.uk.com
Meuryn Hughes - www.aureus.co.uk
Malcolm Jones www.http://uk.music-jobs.com/cv/maljomusic
Andrew Lewis www.AndrewLewis.orgl
David Lloyd-Howells - www.david-lloyd-howells.org.uk
Owain Llwyd - www.owainllwyd.com
Enid Luff - www.primaveramusic.com
and www.impulse-music.co.uk/primavera.htm
John Metcalf - www.johnmetcalf.co.uk
Christopher Painter - www.christopherpainter.co.uk/index2.html
Dan Phelps - www.compositiontoday.com/danphelps
Leigh Phillips - www.reel-music.co.uk
Lynne Plowman www.lynneplowman.co.uk
Peter Reynolds - www.musicnow.co.uk/composers/reynolds.html
Michael Robinson - http://www.michaelfrobinson.org.uk/
Rhian Samuel - http://www.stainer.co.uk/samuel.html
and http://www.city.ac.uk/music/staff/rsamuel.html
Gillian Stevens - www.composer.co.uk/composers/stevens.html
Hilary Tann - www.union.edu/PUBLIC/PARTDEPT/TANNH
Ceiri Torjussen - www.ceiri.com/
Jack White - www.whitehillmusic.com/
Alan Edward Williams - www.sibeliusmusic.com
Jack White - www.whitehillmusic.com/
John Williamson - www.impulse-music.co.uk/williamson.htm
Jennifer Wilson - www.jazzwales.co.uk/wja
and www.blackhistorymap.com
Andrew Wilson-Dickson - www.wilson-dickson.co.uk
Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae cynlluniau newydd CCC ar gael nawr. Ceir gwybodaeth gyffredinol ar eu gwefan. Os am ganllawiau a ffurflenni, cysylltwch ag unrhyw swyddfa (gweler isod).
Swyddfa Caerdydd: 9 Museum Place Caerdydd CFIO 3NX
Tel: 029 2037 6500
Facs:029 2022 1447
Minicom: 029 2039 0027
Swyddfa Bae Colwyn: 36 Prince’s Drive Bae Colwyn LL29 8LA
Tel: 01492 533440
Facs: 01492 533677
Minicom: 01492 532288
Swyddfa Caerfyrddin: 6 Gardd Llydaw Jackson Lane Caerfyrddin SA3I 1QD
Tel:01267 234248
Facs: 01267 233084
e-bost: information@ccc-acw.org.uk
Gwefan: www.ccc-acw.org.uk
gwefannau o ddiddordeb
www.welshmusicfoundation.com (yn cynnwys cylchgrawn honk)
www.welshmusic.org.uk
www.crwth.org.uk
www.arts4cardiff.co.uk
www.impulse-music.co.uk
www.composers-uk.com
www.composers21.com (Living
Composers Project on the Internet) database of information on contemporary
composers. E-mail Dan Albertson at dalbertson@nupedia.com
www.britishacademy.com
www.prsf.com
www.musicweb.uk.net
www.jazzuk.com
www.jazzreview.com
www.pynci.tv
www.rhapsoarts.com/iscm/pe.html
www.e-qualitymusic.com
www.spnm.org.uk
www.bmr.org (British Music Rights)
www.visitingarts.org.uk
www.cultural-enterprise.com/news/news.html
www.soundinventors.org.uk
www.tycerdd.org
cyfeiriadau defnyddiol
Cyngor Celfyddydau Cymru (gweler uchod)
Ty Cerdd - Music Centre Wales, yn cynnwys:
Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru/Welsh Amateur Music Federation
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music Information Centre
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru/National Youth Arts Wales
Ty Cerdd - Music Centre Wales,
Canolfan Mileniwm Cymru,
Plas Bute,
Caerdydd CF10 5AL
T: 029 2063 5640
Ff: 029 2063 5641
E: enquiries@tycerdd.org
Keith Griffin, director Keith.griffin@tycerdd.info
WAMF
Chris Sharpe (ymholiadau, ceisiadau, ayyb) chris.sharpe@tycerdd.info
Alexandria James (y llyfrgell, NYAW, perfformiadau cynedd y seindorf prês alex.james@tycerdd.info
NYAW (WAMF)
Matthew Thistlewood matthew.thistlewood@tycerdd.info
WMIC
Ruth Leggett(rheolwraig) ruth.leggett@tycerdd.info
Charlotte Griffin charlotte.griffin@tycerdd.info
Y STIWDIO RECORDIO
James Clarke (technegwr recordio) james.clarke@tycerdd.info
GWEITHDAI A PHERFFORMIADAU
Rhiannon McLean rhiannon.mclean@tycerdd.info
British Academy of Composers and Songwriters, British Music House, 26 Berners Street, London W1T 3LR tel: 020 7636 292 fax: 020 7636 2212
web: www.britishacademy.com
The Performing Right Society, 29-33 Berners Street, London SW1P 4AA
BAFTA Cymru, Chapter Arts Centre, Market Street, Canton, Cardiff CF5
1QE
tel: 029 2022 3898, e-mail post@bafta-cymru.org. uk
WAMF, Ty Cerdd, Wales Millennium Centre, Bute Place, Cardiff Bay, CF10
5AL Tel 029 2063 5640
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, Ty Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL Tel 029 2063 5642
Welsh Music Guild/Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru 33, Southminster Road, Penylan, Cardiff CF 029 2049 1585 e-mail: guildinfo@ntlworld.com
Incorporated Society of Musicians, 10, Stratford Place, London W1E 3YZ Sibelius 7 Support Services (The Data Store) new number 0208 460 6537
Women in Jazz, Queen’s Buildings, Cambrian Place, Swansea SA1 1TW enquiries@womeninjazzswansea.org.uk , www.womeninjazzswansea.org.uk , tel: 01792 456666
Cwmnïau recordio
Cwmni Recordio Fflach, Llys y Coed, Heol Dinbych y Pysgod, Cardigan, Ceredigion, SA43 3AH, Tel: (01239) 614691, Fax: (01239) 614680
Cwmni Recordio Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 2YQ, Tel: (01286) 831111, gwefan: www.sain.wales.com
Red Kite Records (Martin Levan), Cwmargenau, Llanwrda, Carmarthenshire SA19 8AP Tel: 01550 722001 gwefan: www.redkiterecords.com
Cadeirydd: Andrew Wilson-Dickson, cyfansoddwr, andrew.wd@cc-cw.org
Ysgrifennydd: Bill Connor, cyfansoddwr, billmus@tiscali.co.uk
Gweinyddydd: Jon Petrie, jon@petriepublications.com
Trysoryddr: Ian Lawson, cyfansoddwr, ian.lawson@cc-cw.org
Eilir Owen-Griffiths, composer, e.griffiths@trinity-cm.ac.uk
Guto Puw, composer, guto.puw@btinternet.com
Peter Reynolds, composer, Director, PM Ensemble, peter.reynolds@pjr.demon.co.uk
Gareth Glyn, composer, gareth.glyn@toucansurf.com
Enid Luff, composer, enid.luff@googlemail.com
Cyfetholedig:
Tim Raymond, cyfansoddwr, Pennaeth Cyfansoddi, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru,
RaymondTC@rwcmd.ac.uk
Gwefeistr: Barbara Kopar: barbara.kopar@cc-cw.org
Gwylwyr:
Ruth Leggett (Arolygydd, Welsh Music Information Centre) ruth@tycerdd.org
Keith Griffin (Arolygydd, Ty Cerdd), keith@tycerdd.org